Canllaw i Gleifion
Gall cael diagnosis a byw gyda chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd droi eich byd cyfan wyneb i waered, a bywydau’r rhai o’ch cwmpas. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n ddryslyd, yn ofnus neu hyd yn oed yn ddig, a ddim yn gwybod ble i droi, na beth i’w wneud. Mae Hosbis Skanda Vale yma i’ch helpu chi a’r rhai sy’n poeni amdanoch chi.
Rydym yn darparu cariad, gofal a chymorth drwy ffôn, cymorth rhithwir a gwasanaeth gwrando proffesiynol, i ddiwallu anghenion oedolion yn union fel chi, sy’n byw gyda chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd ac sydd ag anghenion gofal lliniarol.
Rydym yn ymwybodol bod gofynion pob unigolyn yn wahanol felly rydym wedi datblygu’r canllaw hwn i ateb rhai o’ch cwestiynau am y gwasanaethau y gallwn eu cynnig i chi a’ch anwyliaid. Rydym hefyd yn hapus i drafod unrhyw ymholiadau sydd gennych naill ai drwy e-bost, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Ar hyn o bryd rydym yn ail-lansio ein gwasanaethau hosbis dydd, am un diwrnod yr wythnos i ddechrau, gyda’r bwriad o gynyddu’r dyddiau fel y bydd adnoddau’n caniatáu. Ochr yn ochr â hosbis dydd, rydym yn gobeithio gallu cynnig ein gwasanaeth trafnidiaeth yn fuan eto, fel y gallwn ddod â chi i’r Hosbis ac yn ôl adref os nad oes gennych unrhyw gludiant arall ar gael.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig gwasanaeth Hosbis Dydd bob dydd Mercher rhwng 10.30am a 4pm a Gwasanaeth Cydymaith y gellir ei gyrchu gartref. Mae ein gwasanaeth seibiant, sy’n cynnig gofal seibiant 24 awr am wythnos y mis, yn ailagor ym mis Chwefror.