Eich adborth

Rydym yn gweithio’n galed i feithrin diwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw ar draws ein holl dimau; creu man lle gall ein holl gleifion, cwsmeriaid ac aelodau tîm leisio eu sylwadau, eu pryderon neu eu cwynion yn gwbl gyfrinachol.

Byddwch yn sicr, bydd eich adborth yn cael ei gydnabod yn brydlon o fewn 7 diwrnod gwaith a lle bo’n berthnasol, yn cael ei ymchwilio; gydag ymateb ffurfiol yn cael ei ddarparu o fewn 30 diwrnod o dderbyn. Ymdrechwn i rannu unrhyw ddeilliannau dysgu yn agored ac yn onest i bob parti ac yn gyfartal, bydd canmoliaeth yn cael ei hadolygu fel meincnod tuag at ein cenhadaeth o ddarparu’r gwasanaeth gorau oll i bob un o’n defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd estynedig a’u ffrindiau. Mae eich barn yn bwysig.

  • Unwaith byddwn ni’n derbyn eich adborth byddwn yn adolygu’r wybodaeth a ddarparwyd ac os oes cyfiawnhad, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol drwy’r dull sydd orau gennych, i drafod eich sylwadau’n fanwl. Byddwn wastad yn anelu at gysylltu â chi o fewn 3 diwrnod o’i dderbyn, fodd bynnag caniatewch 7 diwrnod llawn os mai trwy’r post yw eich dull dewisol.
  • Os ydy eich adborth yn ymwneud â chwyn neu bryder, byddwn yn uwch gyfeirio eich adborth i’r tîm rheoli perthnasol, a fydd wedyn yn cychwyn ymchwiliad trylwyr. Yn ystod y broses hon byddwch yn cael un pwynt cyswllt y gallwch gysylltu gyda; gyda golwg ar ddeall/datrys eich pryderon.
  • Unwaith byddwn ni wedi casglu tystiolaeth gan bob parti perthnasol, byddwn yn penderfynu os yw eich pryderon yn cyfiawnhau cael eu cyfeirio at ein bwrdd ymddiriedolwyr.
  • Byddwch yn derbyn ymateb ysgrifenedig ffurfiol ynghylch eich adborth o fewn 30 diwrnod o gydnabyddiaeth, neu fel arall ar benderfyniad. Yna byddwn yn rhannu hyn gyda’n tîm datblygu gwaith er mwyn nodi unrhyw anghenion hyfforddi ychwanegol gan gynnwys yr adborth yma yn ein hadolygiad ansawdd er mwyn gwella ein gwasanaethau.

Dylid gwneud pob cwyn o fewn 12 mis i’r digwyddiad/pwnc. Unrhyw gwynion a wneir y tu allan i’r amser yma, oni bai bod y protocol cyfyngu yn ddi-rym, ni fydd yn cael ei uwch gyfeirio. Os hoffech dderbyn copi o’n polisi adborth, gofynnwch am gopi trwy ein gwefan skandavalehospice.org neu ysgrifennwch atom:

Skanda Vale Hospice
Saron
Llandysul
SA44 5DY

Rhannwch eich syniadau…