Healthcare support worker volunteers and patients having lunch

Trosolwg

Mae bwyd ardderchog yn greiddiol i’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn Hosbis Skanda Vale ac rydym yn chwilio am Arweinydd Arlwyo Gwirfoddol sy’n medru goruchwylio ac ysbrydoli ein tîm arlwyo i uchelfannau uwch fyth.

Rydyn ni angen rhywun sy’n medru creu bwydlenni gwych sy’n ateb y galw i bob math o chwaeth dra hefyd yn ateb gofynion maeth a deiet penodol ein cleifion. 

Bydd ein Harweinydd Arlwyo Gwirfoddol yn gyrru ein gwasanaeth cost effeithiol ac effeithlon, yn cynhyrchu prydau blasus sy’n gadael cleifion ac aelodau’r tîm yn gofyn am ragor. 

Yn ystod yr wythnosau seibiant misol, mae cynllunio a darparu ar gyfer brecwast, cinio, a swper yn digwydd. Cinio yn unig yw ffocws ein gwasanaeth hosbis ddyddiol.  

Rydym yn angerddol ynghylch gweini bwyd ardderchog ac mae hyn golygu taw ein tîm arlwyo yw’r rhai mwyaf poblogaidd yn yr adeilad ac mae angen Arweinydd Arlwyo Gwirfoddol brwd i goroni’r cyfan.

Bydd ein Harweinydd Arlwyo Gwirfoddol:
  • Yn arwain, cefnogi, ac ysbrydoli ein tîm o gogyddion a chynorthwywyr arlwyo er mwyn cynhyrchu prydau ardderchog, bore, canol dydd, a gyda’r hwyr.
  • Tywys cleifion, lle bydd hynny’n briodol, wrth iddyn nhw ddewis prydau, gan gynnwys y rhai hynny sydd â gofynion dietegol penodol.
  • Cymryd cyfrifoldeb am y gyllideb arlwyo a rheoli stoc.
  • Trefnu a rheoli rotas y tîm.
  • Darparu anwytho penodol i swydd a hyfforddiant yn ôl y galw.
  • Gweithio gyda’r Tîm Cyflwyno Gofal i sicrhau bod cofnodion ynghylch alergeddau a gofynion maeth yn cael eu cadw a’u diweddaru. 
  • Sicrhau cydymffurfiad a gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac arwain awdit, yn ôl gofynion llywodraethiant. 
Bydd angen y canlynol ar ein Harweinydd Arlwyo Gwirfoddol:
  • Dealltwriaeth o weithdrefnau hylendid bwyd.
  • Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 3 (gallwn ddarparu hyfforddiant os oes angen)
  • Profiad arlwyo, gan gynnwys paratoi a choginio bwyd
  • Dealltwriaeth o faeth / anghenion maeth arbennig ac alergeddau bwyd, neu barodrwydd i ddysgu
  • Sgiliau rheoli amser a threfniadol effeithiol
  • Dilyn gweithdrefnau Iechyd & Diogelwch a Rheoli Heintiadau
  • Ymgymryd â rhai tasgau ymdrin â llaw a gofynion rhesymol eraill yn ôl y galw.
  • Cynnal perthynas waith cadarnhaol gyda thîm yr Hosbis, gyda chleifion, gwesteion, gofalwyd, perthnasau, ac ymwelwyr.
Nodweddion personol caiff eu gwerthfawrogi yw:
  • Teimlo’n angerddol dros fwyd
  • Agwedd empathetig a thosturiol
  • Sgiliau gwrando rhagorol
  • Brwdfrydedd ac ymagweddiad cydwybodol at wirfoddoli
  • Agosatrwydd, ffordd sy’n rhoi’r unigolyn yn gyntaf, a synnwyr digrifwch.
  • Y gallu i aros yn dawel, yn diplomataidd, ac yn broffesiynol mewn sefyllfaoedd gall fod yn heriol.
Rydym yn gofyn i bawb sy’n gwirfoddoli:
  • i fynychu diwrnod Croeso (n’Ôl), Anwytho a hyfforddiant parhaus
  • Cymryd rhan yn ein proses datblygu blynyddol
  • Dilyn ein polisïau a’n gweithdrefnau 
  • Chwarae rhan weithredol ym mhroses rheoli risg yr hosbis er mwyn diogeli gleifion, ymwelwyr, a chyd-weithwyr a chymryd cyfrifoldeb am adrodd ar a rheoli risg fel sy’n briodol. 
  • Dilyn ymarfer priodol i reoli haint yn gyson
  • Cytuno i ymchwiliad cofnod troseddol
  • Bod yn ymwybodol o ofynion cyfrinachedd yn ymwneud a chleifion, gofalwyr, cyfeillion, a pherthnasau.

Cefnogir gan: Bennaeth Gweithredu

Lleoliad: Hosbis Skanda Vale, Saron

Oriau: 8 i 12 awr yr wythnos (12 awr pan fydd y gwasanaeth ar gael 24/7).  Gellir gwahanu’r rôl 50/50 rhwng gweithio ar y safle a gweithio o bell.  Rydym yn gofyn i chi ymrwymo i 15 awr o hyfforddiant yn y mis cyntaf.  Bydd hyn yn lleihau i oddeutu chwe awr y mis yn yr ail a’r drydedd mis – ac yna mwyafrif o un i ddwy awr y mis.

Gwnewch gais nawr

Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr bod gennych chi enwau, rhifau a chyfeiriadau e-bost dau ganolwr (nad ydynt yn aelodau o’r teulu) rydych chi wedi’u hadnabod ers dwy flynedd neu fwy.