Trosolwg

Mae glendid yn hanfodol i bob dim rydym yn ei wneud yn Hosbis Skanda Vale ac mae angen Arweinydd Gofal Tŷ Gwirfoddol sy’n cydnabod pwysigrwydd hylendid o’r safon uchaf tra hefyd yn cefnogi ac ysbrydoli ein Tîm Gofal Tŷ ymroddedig i wneud yr un fath. 

Fel lleoliad gofal iechyd, rydym yn mynnu’r safon uchaf o lendid, o’r ceginau i’r ystafelloedd gwely, ystafelloedd therapïau, ac mae angen Arweinydd Gofal Tŷ Gwirfoddol sy’n gallu cyflawni a chynnal y safonau hynny.

Mae angen rhywun sy’n mynnu bod pob dim i’r safon uchaf wrth hyrwyddo a chynnal yr amgylchedd cynnes, croesawgar a gofalgar sy’n bod ar ein safle.

Bydd ein Harweinydd Gofal Tŷ Gwirfoddol yn meithrin, cefnogi, a goruchwylio’r timoedd gwirfoddol sy’n gyfrifol am gadw tŷ a’r golch wrth i ni ymdrechu tuag at berffeithrwydd.

Bydd yr Arweinydd Gofal Tŷ Gwirfoddol
  • Arwain, cefnogi, ac ysbrydoli ein timoedd gwirfoddol sy’n gyfrifol am gadw tŷ a’r golch
  • Creu a rheoli amserlenni dyddiol ac wythnosol ar gyfer y timoedd gwirfoddol
  • Sicrhau’r safonau uchaf o hylendid a glanweithdra drwy’r adeilad
  • Gweithio gyda staff yr Uned Seibiant a Hosbis Dydd i drefnu a rheoli ‘glanhau dwfn’ yr ystafelloedd gwely ac ardaloedd eraill yn ôl y galw. 
  • Cymryd perchnogaeth o’r cyllid gofal tŷ a rheoli stoc
  • Gweithio gyda Phennaeth Gweithrediadau i ddilyn canllawiau mwyaf diweddar iechyd a diogelwch a gweithdrefnau rheoli heintiau
Mae gofyn i’r Arweinydd Gofal Tŷ Gwirfoddol gael:
  • Sgiliau trefnu ac arwain tîm rhagorol
  • Gwybodaeth am bob math o agweddau o ofal tŷ
  • Parodrwydd i ddysgu sgiliau cyfrifiadur
  • Agwedd proffesiynol a brwd ynghyd a hunan-cymhelliant
  • Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant fel bo angen.
Byddai’n ddymunol iawn pe byddai gennych chi:
  • Brofiad blaenorol o lanhau – naill ai mewn cartref, gofal, ysbyty, neu swyddfa
  • Gwybodaeth am reoliadau COSHH
  • Profiad o fod gyda phobl gyda chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd – er mwyn i chi deimlo’n gysurus yn sgwrsio
  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
Nodweddion personol rydym yn eu gwerthfawrogi
  • Ymagweddiad empathetig a thosturiol
  • Sgiliau gwrando rhagorol
  • Brwdfrydedd ac agwedd cydwybodol tuag at wirfoddoli
  • Agosatrwydd ac ymagweddiad person-ganolog, a synnwyr digrifwch
  • Y gallu i aros yn dawel, diplomataidd, a phroffesiynol mewn sefyllfaoedd gall fod yn heriol
Rydym yn gofyn i bawb sy’n gwirfoddoli:
  • I fynychu diwrnod Croeso (n’Ôl), Anwytho a hyfforddiant parhaus
  • Cymryd rhan yn ein proses datblygu blynyddol
  • Dilyn ein polisïau a’n gweithdrefnau 
  • Chwarae rhan weithredol ym mhroses rheoli risg yr hosbis er mwyn diogeli gleifion, ymwelwyr, a chyd-weithwyr a chymryd cyfrifoldeb am adrodd ar a rheoli risg fel sy’n briodol. 
  • Dilyn ymarfer priodol i reoli haint yn gyson
  • Cytuno i ymchwiliad cofnod troseddol
  • Bod yn ymwybodol o ofynion cyfrinachedd yn ymwneud a chleifion, gofalwyr, cyfeillion, a pherthnasau.

Cefnogir gan: Bennaeth Gweithredu

Lleoliad: Hosbis Skanda Vale, Saron

Oriau: 8 i 12 awr yr wythnos (12 awr pan fydd y gwasanaeth ar gael 24/7).  Gellir gwahanu’r rôl 50/50 rhwng gweithio ar y safle a gweithio o bell.  Rydym yn gofyn i chi ymrwymo i 15 awr o hyfforddiant yn y mis cyntaf.  Bydd hyn yn lleihau i oddeutu chwe awr y mis yn yr ail a’r drydedd mis – ac yna mwyafrif o un i ddwy awr y mis.

Gwnewch gais nawr

Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr bod gennych chi enwau, rhifau a chyfeiriadau e-bost dau ganolwr (nad ydynt yn aelodau o’r teulu) rydych chi wedi’u hadnabod ers dwy flynedd neu fwy.